Senedd Cymru 
 Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
 Ymchwiliad i Urddas a Pharch
 Ymgynghoriad 
 Tachwedd 2023

 

 

 

 

 

 

 


Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (y Pwyllgor) yn cynnal ymchwiliad i Urddas a Pharch.

Cytunodd y Senedd ar bolisi urddas a pharch yn 2018 a oedd yn amlinellu’r hawl i bawb deimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn wrth ryngweithio â’r Senedd. Roedd y polisi hwn yn berthnasol i Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth, a staff y Comisiwn. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Bumed Senedd ymchwiliad i 'Creu'r Diwylliant Cywir' a oedd yn ceisio sicrhau bod diwylliant y Senedd yn un cadarnhaol ac agored.

Bum mlynedd ar ôl y gwaith, mae'r Pwyllgor yn awyddus i adolygu'r cynnydd a wnaed yn y maes hwn, sicrhau bod y sgwrs yn y maes hwn yn parhau, ac ystyried a ellid cymryd camau pellach.

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn ac unrhyw beth arall ar y pwnc rydych chi'n ei ystyried sy’n berthnasol. Cyflwynwch eich ymateb erbyn 22 Ionawr 2024 i Seneddsafonau@Senedd.cymru.


 

Sut i ymateb

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n cyflwyno tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

Os ydych chi am gyflwyno tystiolaeth, cyflwynwch un ddogfen (dogfen Word fyddai orau) gydag unrhyw dablau, taenlenni ac atodiadau wedi'u hymgorffori ym mhapur eich cyflwyniad i SeneddSafonau@senedd.cymru. Ni ddylai cyflwyniadau fod yn hwy na phum ochr tudalen A4, gyda’r paragraffau wedi’u rhifo.

Mae canllawiau pellach ar baratoi tystiolaeth ysgrifenedig i’w cael ar y wefan y Senedd.

Os hoffech i'ch ymateb gael ei drin yn ddienw neu'n breifat, nodwch yn eich e-bost/llythyr cysylltiedig.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 5.00pm, ddydd Llun 22 Ionawr 2024.

Datgelu gwybodaeth

Cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi'r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth. Fel arall, gellir gofyn am gopi caled o'r polisi hwn trwy gysylltu â Chlerc y Pwyllgor (0300 200 6565) neu SeneddSafonau@senedd.cymru

 


 

Ymchwiliad i Urddas a Pharch - Ymgynghoriad

Y cefndir

1.        Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i Urddas a Pharch ddiwethaf gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Bumed Senedd yn ei hymchwiliad 'Creu'r Diwylliant Cywir: Sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn lle rhagorol i weithio’ yn 2018. Roedd yr ymchwiliad hwn yn ganlyniad ymrwymiad a lofnodwyd gan y Llywydd, arweinwyr grwpiau’r pleidiau gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol, cadarnhaol ac agored.

2.        Ochr yn ochr â’r ymchwiliad hwn, rhoddwyd polisi urddas a pharch[1] gyda chanllawiau a phrosesau cysylltiedig ar waith, a chytunwyd y byddai'r polisi'n cael ei adolygu'n rheolaidd.

3.        Mae Comisiwn y Senedd (y Comisiwn) wedi cynnal adolygiad mewnol o’r polisi yn ddiweddar ac wedi llunio adroddiad (Atodiad A) sy’n nodi’r camau a gymerwyd, ac yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch gwella’r darpariaethau ar gyfer urddas a pharch yn y Senedd. Mae’r Pwyllgor wedi cymryd yr argymhellion hyn fel man cychwyn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.

Yr Egwyddor Parch

4.        Roedd y polisi Urddas a Pharch yn seiliedig ar ddull gweithredu teir-ran a oedd â’r nod o sicrhau y gellid defnyddio’r un safonau ac un polisi ar gyfer Aelodau o’r Senedd, staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd.

5.        Wrth adolygu’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd, cafodd egwyddorion urddas a pharch eu prif ffrydio i’r safonau a ddisgwylir gan Aelodau, drwy gynnwys egwyddor parch. Yn ôl yr egwyddor:

“Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n lleihau cyfle cyfartal, rhaid iddynt barchu urddas pobl eraill a pheidio ag ymddwyn yn wahaniaethol neu mewn modd nas dymunir.”

6.        Dangosodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Comisiwn y gall natur deir-ran bresennol y dull gweithredu fod yn gymhleth ac arwain at ddyblygu polisïau a phrosesau perthnasol eraill.

7.        Felly, awgrymir y dylid disodli'r polisi presennol gyda datganiad trosfwaol yn ailddatgan yr ymrwymiad i gynnal urddas a pharch at Aelodau, staff cymorth yr Aelodau, staff y Comisiwn a phob ymwelydd arall.

8.        Bwriad hyn fyddai sicrhau bod y disgwyliadau yn glir a'r llwybrau cwynion yn symlach, e.e. byddai cwyn yn erbyn Aelod yn cael ei gwneud yn erbyn y disgwyliadau yn y Cod Ymddygiad heb orfod cyfeirio hefyd at bolisi gwahanol.

Mecanweithiau adrodd

9.        Dangosodd y wybodaeth a gasglwyd gan y Comisiwn fod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn ymwybodol o’r polisi, a sut i gael gafael arno, ond canfu’r adolygiad nad oes digon o wybodaeth am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael. Ymhlith staff cymorth yr Aelodau, dywedodd 61.7 y cant o'r ymatebwyr y byddent yn teimlo'n gyfforddus i godi pryderon gan ddefnyddio'r broses bresennol. Mae hyn yn cymharu â 71.2 y cant ymhlith staff y Comisiwn ac 81 y cant ymhlith Aelodau. Dywedodd swyddogion cyswllt fod natur eu sgyrsiau yn aml yn ymwneud â llywio'r 'system' urddas a pharch.

10.     Canfu’r Comisiwn hefyd fod y mecanwaith ffurfiol presennol a ddarperir gan y Senedd i godi mater sy’n ymwneud ag Aelod (i’r Comisiynydd Safonau) yn cael ei ystyried gan rai yn broses rhy ganlyniadol. Esboniodd rhai staff cymorth y byddai o gymorth cael mecanweithiau adrodd cliriach a chefnogaeth ar gyfer staff sy'n codi pryderon. Awgrymodd sawl un y dylai’r system ar gyfer adrodd am bryderon ynghylch urddas a pharch gael ei gweinyddu a’i rhedeg gan gorff annibynnol.

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i wybod a yw’r safbwyntiau hyn yn cael eu hadlewyrchu’n fwy eang mewn perthynas â’r polisïau a’r systemau sydd ar waith yn y Senedd.

Hoffai'r Pwyllgor glywed eich barn ar y cwestiynau a ganlyn:

§    A fyddech chi’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud cwyn am Aelod o’r Senedd neu rywun sy’n gweithio ar ystâd y Senedd? Os na, pam?

§    A ydych yn gwybod sut i wneud cwyn am Aelod o’r Senedd neu rywun sy’n gweithio ar ystâd y Senedd?

§    A ydych yn teimlo bod unrhyw ffactorau sy’n eich rhwystro rhag lleisio pryderon am ymddygiad amhriodol gan Aelod o’r Senedd neu rywun sy’n gweithio ar ystâd y Senedd?

§    A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella'r drefn gwyno?

o   A yw'r canllawiau'n glir? A yw'r iaith a ddefnyddir yn syml i'w deall?

o   A yw'r ddogfen yn eich helpu i ddeall pwy y dylech gysylltu â hwy ynghylch gwahanol fathau o gwynion?

o   Pe byddech yn profi ymddygiad amhriodol, a fyddech yn teimlo'n hyderus yn defnyddio'r weithdrefn fel y mae ar hyn o bryd?

 



[1]  Polisi Urddas a Pharch Senedd Cymru